Gwybodaeth
Storïwr yw Radha y mae ei gwaith yn cwmpasu trefedigaethedd, natur, crefydd, defodau, iaith, llên gwerin a dyfodol hapfasnachol. Mae ysgrifennu wrth galon ei gwaith, felly mae unrhyw waith y mae hi’n ei wneud bob amser yn cynnwys testun, ochr yn ochr ag elfen ffisegol neu ddiriaethol y gall pobl ryngweithio â hi megis cerfluniau, printiau, darluniau, sain, gosodiadau, ffilmiau ac iaith ddyfeisiedig o’r enw Etsolstera.
Drwy gydol hanes, bu bodau dynol yn mynd a dod rhwng ein byd ni a’r ‘isfydoedd’ neu’r ‘bydoedd eraill’.
Mae llên gwerin yn dweud cymaint wrthon ni am yr hyn y gallwn ni ei ddysgu o’r teithiau hyn, gan gynnwys sut y bu i bobl wrthsefyll trefedigaethedd, ailadeiladu’r hyn a ddinistriwyd, ac ymarfer undod â rhywogaethau eraill.
Mae gwaith Radha yn archwilio llên gwerin trwy gydol hanes, ac yn defnyddio’r dechneg o adrodd straeon i adeiladu ffyrdd newydd o’n hailgysylltu â’n cyndeidiau dynol, ein cyndeidiau sy’n rhywogaethau eraill, a’r holl hud sy’n cael ei golli trwy drefedigaethedd. Mae hi’n gweithio gyda llên gwerin hŷn a phresennol o Gymru ac India a hefyd yn creu llên gwerin newydd am ddefodau, gwrthrychau hudolus, tiroedd dychmygol a phlanedau newydd.
Bywgraffiad
Mae gwaith Radha fel artist yn cyd-fynd ag wyth mlynedd o brofiad yn gweithio ar draws prosiectau sy’n dod â’r celfyddydau, ymwneud â’r gymuned, a datblygu cynulleidfa ynghyd. Mae hefyd yn angerddol am brosiectau sy’n gweithio’n gynaliadwy ac sy’n gynhyrchiol ar gyfer y cymunedau y maen nhw’n gweithio gyda nhw.
Ymhlith ei swyddi diweddaraf mae bod yn Gynhyrchydd Ymgysylltu i Artes Mundi 10 ac asesu ceisiadau ar gyfer The Uncertain Kingdom, y Groundwork Collective a’r BFI Academy. Cyn hynny, hi oedd y Cydlynydd Rhaglen ac Allgymorth yn Gentle/Radical. Hi hefyd oedd y ‘Swyddog Gwnaed yng Nghymru’ yng Nghanolfan Ffilm Cymru, gan ddatblygu strategaethau i hyrwyddo Ffilmiau o Gymru. Bu hefyd yn rheoli tendr D&I mawr ar gyfer Cyngor y Celfyddydau ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 2020. Yn 2024, roedd Radha yn Swyddog Prosiect gyda Phrosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru i gofnodi ac archifo hanes Asiaid Uganda, fel hanes ei thaid a nain, a ddaeth i Gymru fel ffoaduriaid yn 1972.
Ar hyn o bryd
Yn 2025, mae hi’n parhau i weithio ar ddarn perfformio o’r enw ‘That’s When We’ll Meet’, a ariannwyd drwy ‘Camau Creadigol’ Cyngor Celfyddydau Cymru, a datblygu prosiectau o amgylch dyfodol iaith drwy Etsolstera.
Mae ei gwaith cydweithredol ag Umulkhayr Mohamed – DARCH – wedi’i gomisiynu ar gyfer Liverpool Biennale 2025.
Ewch i'r dudalen Detholiad o Weithiau i weld rhagor o enghreifftiau o'i gwaith.